Y Pwyllgor Deisebau |
Meeting Venue: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Meeting date: |
Dydd Mawrth, 27 Medi 2011 |
|
|||
|
|
||||
Meeting time: |
09:15 - 10:10 |
|
|||
|
|
||||
This meeting can be
viewed on Senedd TV at: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Concise Minutes: |
|||||
|
|
|
|||
Assembly Members: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Witnesses: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Committee Staff: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.
2. Deisebau newydd
2.1 P-04-329 Rheoli swn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y mater hwn nes bod yr alwad am dystiolaeth yn dod i ben ar 3 Tachwedd.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn gofyn iddo ystyried y ddeiseb fel rhan o’i ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio.
Bydd y tîm clercio yn anfon copi o gylch gorchwyl ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi ynni a chynllunio at aelodau’r Pwyllgor.
2.2 P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ateb gan y Llywydd i lythyr y Cadeirydd a oedd yn ceisio ei safbwynt cychwynnol.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Rhodri Glyn Thomas, y Comisiynydd sy’n gyfrifol am swyddogaethau a pholisi Comisiwn y Cynulliad mewn perthynas â’r iaith Gymraeg, i ofyn am ei farn ef ynghylch y ddeiseb.
2.3 P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau
2.4
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn nhestun y ddeiseb hon, gan ei fod wedi cyhoeddi datganiad barn ar bwnc cysylltiedig yn y gorffennol.
Camau i’w cymryd
Bydd y tîm clercio yn archwilio a ganiateir i’r cyhoedd a chyrff allanol ail-ddefnyddio clipiau o Senedd TV.
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y mater hwn nes bod yr alwad am dystiolaeth yn dod i ben ar 3 Tachwedd.
2.5 P-04-332 Manylion Gwariant sydd dros £500 gan Awdurdodau Lleol
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y mater hwn nes bod yr alwad am dystiolaeth yn dod i ben ar 3 Tachwedd.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am amserlen ar gyfer cyhoeddi’r cynllun cyflenwi cenedlaethol ar ganser.
Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth lafar ar gydymffurfio ar ôl i’r cynllun cyflenwi cenedlaethol gael ei gwblhau.
3.2 P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Datganodd Joyce Watson ddiddordeb oherwydd bod ei merch yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog i roi tystiolaeth lafar at sut y bydd y cynlluniau teithio cynaliadwy yn cael eu cyflawni a’u monitro.
3.3 P-03-219 Fferyllfeydd yn y Barri
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac annog y deisebwyr i ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ar y mater hwn.
3.4 P-03-221 Gwell triniaeth traed drwy'r GIG
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth lafar ar y mater hwn.
3.5 P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am gopi o’r dadansoddiad cost a budd a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol.
Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth lafar ar y mater hwn.
3.6 P-04-327 Cadwch Ein Hysbyty Cymuned
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb hon.
3.7 P-03-301 Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ganlyniadau’r adolygiad o bolisi dysfforia rhywedd Cymru a gynhelir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar hyn o bryd.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i awgrymu i’r deisebwyr eu bod yn cysylltu â Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru er mwyn cyfrannu at yr adolygiad.
3.8 P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ganlyniadau trafodaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ei flaenraglen waith.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes i ofyn a fyddai’n bosibl trafod y ddeiseb fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i adfywio canol trefi.
Bydd y tîm clercio yn anfon copi o gylch gorchwyl ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i adfywio canol trefi at aelodau’r Pwyllgor.
3.9 P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn pam na chafodd goleuadau ar ochr y ffyrdd eu cynnwys yn y gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd.
3.10 P-03-316 Dylid gosod yr angen i gynnal hebryngwyr croesfannau ysgol sy’n bodoli eisioes yn amod o Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynghorau lleol na ellir mo’i newid.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
3.11 P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y ddeiseb nes ei fod yn gwybod beth yw canfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi ynni a chynllunio.
3.12 P-03-302 Ffatri prosesu compost
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac argymhellodd bod y Gweinidog yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yn rheolaidd.
3.13 P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel yn difetha ein cymuned
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y ddeiseb nes ei fod yn gwybod beth yw canfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi ynni a chynllunio.
3.14 P-04-326 Na i losgyddion
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y ddeiseb nes ei fod yn gwybod beth yw canfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.
Cytunodd y Pwyllgor i wneud cais am ragor o wybodaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.
3.15 P-04-320 Polisi Tai Cymdeithasol
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am gadarnhâd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth o’r hyn a olygir gan ‘cysylltiadau lleol’ yn y Cod Canllawiau drafft ar ddyraniadau tai, ac i basio’r wybodaeth hon ymlaen i’r deisebwyr.
3.16 P-03-124 Cysgliad
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau.
3.17 P-03-307 Dylunio er mwyn arloesi yng Nghymru
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y ddeiseb nes ei fod yn gwybod beth yw canfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i adfywio canol trefi.
3.18 P-03-271 Ardrethi Busnes yn Arberth
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y ddeiseb nes ei fod yn gwybod beth yw canfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i adfywio canol trefi.
3.19 P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r gwaith o drafod y ddeiseb nes ei fod yn gwybod beth yw canfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i adfywio canol trefi.
3.20 P-03-204 Atebolrwydd i'r cyhoedd ac ymgynghoriadau cyhoeddus ym maes Addysg Uwch
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac argymell bod y deisebwyr yn trafod unrhyw bryderon pellach gyda’u Haelodau rhanbarthol ac etholaeth unwaith y bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cyhoedi’i ymateb i’r Adolygiad o Lywodraethu Addysg Uwch yng Nghymru.
3.21 P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am yr adroddiad terfynol ar yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo.
3.22 Eitemau'r Cadeirydd
Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm clercio am ei waith dros doriad yr haf ar ffyrdd newydd y Pwyllgor o weithio, ac i’r Tîm Allgymorth am gefnogi presenoldeb y Pwyllgor yn y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Nodwyd y bydd y Pwyllgor yn cynnal ymgynghoriadau i nifer o ddeisebau a ddaeth i law.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.